Amdanom Ni
Mae Grŵp Peirianneg Arfordirol Bae Abertawe a Chaerfyrddin (yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau arfordirol lleol, awdurdodau cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill) yn cydweithio i gydlynu rheolaeth strategol o arfordir De Cymru, rhwng Trwyn Larnog (Bro Morgannwg) a Phenrhyn Santes Ann (Sir Benfro), nawr ac i'r dyfodol. Mae'r Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT2) yn ddogfen bolisi erydu arfordirol a rheoli perygl llifogydd lefel uchel, sy'n helpu i'n harwain yn y dasg hon.
Mae'r arfordir yn newid. Mae wedi bod ac fe fydd bob amser. Bydd newid hinsawdd a lefel y môr yn codi yn parhau i gynyddu'r perygl o lifogydd ac erydu ar yr arfordir, gan effeithio ar y mannau lle mae pobl yn byw, gweithio a chwarae. Felly efallai y bydd angen newid y ffordd y caiff amddiffynfeydd a'r arfordir eu rheoli yn y dyfodol.
Mae'r grŵp wedi'i nodi yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru fel sefydliad arweiniol ar gyfer pedwar mesur ac mae'n chwarae rhan weithredol fel aelod o Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru.
Ein Haelod Sefydliadau
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn dod yn aelod, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
Clive Moon
SCBCEG Cadeirydd y Grŵp Arfordirol
Hannah Richards
SCBCEG Swyddog Arfordirol